Cerddwyr Ardal Gogledd Cymru

Dewiswch eich iaith

Cliciwch ar y faner berthnasol i gael y Gymraeg neu’r Saesneg / Click on the relevant flag for Welsh or English

Gwybodaeth bwysig y dylech ei gwybod

 31193813286 992c59eda0 c

Byddwch cystal â darllen y nodiadau canlynol yn ofalus

Cyffredinol: Mae croeso i chi ymuno ag unrhyw deithiau cerdded a ddisgrifir yn y llyfryn hwn ac nid eich teithiau lleol chi yn unig, ond byddwch cystal â sicrhau eich bod chi’n gyfarwydd â’r wybodaeth bwysig a ganlyn.

1 – Cŵn – ardal ffermio da byw yw’r rhan fwyaf o Ogledd Cymru ac ni fydd llawer o’n harweinwyr yn caniatáu i gŵn, heblaw am gŵn cymorth cofrestredig, fynd ar eu teithiau. Dylai pobl sy’n defnyddio cŵn cymorth o’r fath ffonio’r arweinydd i drafod camfeydd neu rwystrau eraill ar y llwybr. Os yw’r arweinydd yn fodlon cael cŵn ufudd eraill ar dennyn byr, bydd y disgrifiad o’r daith yn dangos hynny.

2 – Cludiant – pryd bynnag y bo modd, defnyddiwch gludiant cyhoeddus neu rhannwch geir i gyrraedd man cychwyn y daith. Siaradwch ag arweinydd y daith i gael gwybod a oes unrhyw drefniadau penodol ar ei chyfer.

3 – Canslo teithiau – gall taith gael ei chanslo am nifer o resymau, megis salwch neu dywydd garw, ac os bydd hyn yn digwydd ni fydd yr arweinydd yn mynd i’r man cychwyn. Gallwch gysylltu â’r arweinydd ond bydd hysbysiad canslo’n cael ei roi fel rheol ar wefan y Grŵp, yr Ardal neu’r Darganfyddwr Teithiau Cerdded. Rhoddir manylion y rhain ar dudalennau XXXX. Sylwch, fodd bynnag, y gall taith gael ei chanslo ar y funud olaf a’i bod hi’n bosibl na fydd y wybodaeth hon yn cael ei rhoi ar y wefan o’r herwydd.

4 – Dillad/offer – cofiwch wisgo’n briodol ar gyfer y math o daith. Gwisgwch esgidiau cryf a dewch â dillad sy’n dal dŵr, eli haul, a het a menig yn ôl y gofyn. A dewch â bwyd a diod sy’n addas i’ch anghenion ar y daith o’ch dewis. Os byddwch yn mynd ar daith yn y mynyddoedd yn y gaeaf fe fydd angen i chi gario bwyell rew fel rheol, a bydd cramponau’n ddefnyddiol os disgwylir eira a rhew. Bydd yr arweinydd yn gwrthod mynd ag unrhyw un sydd heb baratoi’n iawn. Siaradwch â’r arweinydd os nad ydych chi’n siŵr.

5 – Ffitrwydd – gall yr arweinydd wrthod mynd ag unrhyw un nad yw’n ymddangos yn ddigon ffit ar gyfer y daith arfaethedig.

7 – Pobl ifanc – bydd Y Cerddwyr yn trefnu teithiau cerdded i blant ysgol (teithiau Scramblers yw’r enw a roddir ar y rhain) ond ar y cyfan rhaid bod yn 18+ oed neu yng nghwmni oedolyn cyfrifol.

8 – Os nad ydych yn aelod – Os nad ydych chi’n aelod o’r Cerddwyr, mae croeso i chi ymuno â ni ar ddwy neu dair o’r teithiau sydd wedi’u rhestru a gobeithiwn y bydd y profiad, a’r wybodaeth a roddir i chi, yn eich annog i ymuno â’n helusen.

9 – Peryglon – Cofiwch os gwelwch yn dda fod elfen o berygl yn gysylltiedig â phob taith ac y dylech bob amser gymryd gofal.

10 – Argyfyngau – Argymhellwn yn gryf y dylai aelodau’r Cerddwyr lenwi un o’n cardiau ICE (Rhag Ofn Argyfwng / In Case of Emergency) a’i gario bob amser yn eu rycsac. Bydd hyn yn sicrhau bod gan yr arweinydd y wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen os bydd argyfwng meddygol. Bydd hefyd yn rhoi’r manylion sylfaenol sy’n angenrheidiol i gysylltu â’r gwasanaethau brys.

 

 

Graddio: Yn y rhestr ganlynol o deithiau cerdded mae llythyr (A-E) yn rhoi amcan i chi o ba mor anodd neu hawdd yw’r daith ac mae’r rhif sy’n dilyn yn rhoi’r pellter bras mewn milltiroedd.

A – Taith galed, mynyddoedd yn bennaf, efallai’n cynnwys

sgrambl. Neu gall fod yn daith hir ar lwybr haws.

B – Heriol teithiau i gerddwyr gwlad profiadol y mae eu ffitrwydd yn uwch na’r cyffredin. Gall y teithiau gynnwys bryniau a thir garw, ac efallai y bydd angen cerdded yn gyflym. Dylai pobl sydd ag amheuon ynghylch eu ffitrwydd gysylltu â’r trefnydd neu’r arweinydd ymlaen llaw.

C – Cymedrol – teithiau i bobl y mae ganddynt brofiad o gerdded yng nghefn gwlad ac sydd â lefel dda o ffitrwydd. Gall y teithiau gynnwys rhai llwybrau serth a pheth gwlad agored.

D – Ysgafn – teithiau i bobl y mae ganddynt ychydig o brofiad o leiaf o gerdded yng nghefn gwlad ac sy’n weddol ffit. Gall y teithiau gynnwys llwybrau gwledig heb wyneb caled.

E – Hawdd – teithiau i bobl nad oes ganddynt anawsterau symud neu broblemau iechyd penodol, neu nad ydynt yn dioddef o ddiffyg ffitrwydd difrifol. Yn addas i gadeiriau gwthio os gellir eu codi dros ambell rwystr.