Cerddwyr Ardal Gogledd Cymru

Dewiswch eich iaith

Cliciwch ar y faner berthnasol i gael y Gymraeg neu’r Saesneg / Click on the relevant flag for Welsh or English

15397892319 4fc86c1228 cFfotograff: Matt Nobles

Taith Ardudwy

Taith gerdded 24 milltir dros ddau neu dri diwrnod rhwng y Bermo a’r bryniau y tu cefn i Harlech ym Mae Ceredigion. Gallwch gyfuno’r daith gerdded hon gyda Thaith Mawddach i fwynhau taith hirach. Mae modd cyrraedd y ddwy daith yn hawdd ar wasanaeth bws a thrên rhagorol o un lle. Rhagor o wybodaeth 

Taith Cambria

Llwybr hir mwyaf heriol Cymru, sydd oddeutu 290 o filltiroedd (468km) o hyd. Llwybr o Arfordir i Arfordir o Gaerdydd i Gonwy. Mae’n daith gerdded lefel uchel sy’n croesi rhannau uchaf a mwyaf gwyllt Cymru. Mae’r daith yn codi tua 78,000 o droedfeddi (23,800 o fetrau) – (dwbl Taith Pennine). Mae sgiliau llywio da’n hanfodol, yn enwedig yn y cymylau. Taith i’r cerddwyr profiadol. Rhagor o wybodaeth 

Taith Clwyd

Mae Taith Clwyd yn Llwybr Cerdded Cylchog Hir 122 o filltiroedd, a grëwyd i ddathlu’r Mileniwm. Mae’n cymryd y cerddwr drwy ran o gefn gwlad mwyaf godidog Gogledd Cymru. Mae’r llwybr clasurol hwn yn cychwyn ac yn gorffen yn nhref wyliau draddodiadol Prestatyn, sydd â chysylltiadau bws a thrên da iawn. Mae’r llwybr yn defnyddio hawliau tramwy ac mae wedi ei nodi gyda disgiau gwyn amlwg ac arnynt lun Boncath.   http://www.clwydianway.co.uk

Taith Glyndŵr

Mae Taith Glyndŵr yn Llwybr Cenedlaethol 135 o filltiroedd. Mae’n cychwyn yn Knighton ar y ffin â Lloegr ac mae’n croesi gweundir agored, tir fferm a fforest i mewn i dref Machynlleth ac yn dod i ben gerllaw Camlas Sir Drefaldwyn yn y Trallwng. I gael rhagor o wybodaeth: https://www.nationaltrail.co.uk/en_GB/trails/glyndwrs-way/  

Taith Mawddach

Mae Taith Mawddach yn daith gerdded 30 milltir sy’n defnyddio llwybrau cerdded a llwybrau caniataol i fynd o amgylch y bryniau y naill ochr neu’r llall i’r aber, gan basio drwy goetir, tir glas a chefn gwlad agored. Mae modd cysylltu hon â Thaith Ardudwy rhwng y Bermo a Llandecwyn.  Rhagor o wybodaeth  https://mawddachestuary.co.uk

Taith y Pererin Gogledd Cymru

Mae’r Llwybr hwn yn ymestyn fwy na 130 o filltiroedd ar draws Gogledd Cymru. Mae’n ymweld â chreirfâu, eglwysi, capeli, ffynhonnau ac encilfeydd rhwng Abaty Dinas Basing yng Nglannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint ac Ynys Enlli ger Arfordir Gorllewin Cymru. Mae Llyfr Arweiniad ar gael. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.pilgrims-way-north-wales.org/

Llwybr Clawdd Offa

Llwybr hir 179 o filltiroedd rhwng Cas-gwent ar Aber yr Afon Hafren a Phrestatyn ar Fae Lerpwl. Mae darn mawr o’r llwybr yn agos at y ffin rhwng Cymru a Lloegr. I gael rhagor o wybodaeth ewch i 

https://www.nationaltrail.co.uk/en_GB/trails/offas-dyke-path/

https://offasdyke.org.uk

 

Llwybr Llechi Eryri

Mae hwn yn llwybr cylchog 85 milltir sy’n gadael i gerddwyr archwilio treftadaeth ddiwydiannol y pentrefi llechi drwy Eryri gyfan. Mae’r llwybr hwn yn cychwyn ym Mhorth Penrhyn ger Bangor ac yn gorffen ym Methesda. I gael rhagor o wybodaeth ewch i  http://www.snowdoniaslatetrail.org

Llwybr Arfordir Cymru

Mae Llwybr Arfordir Cymru’n 870 milltir o hyd a dyma’r llwybr parhaus hiraf ar hyd arfordir y wlad. Mae llawer o’r llwybr o fewn cyrraedd yn hawdd i’n trefi arfordirol felly mae’n eithriadol o hawdd cyrraedd y llwybr. I gael rhagor o wybodaeth ewch i  http://www.walescoastpath.gov.uk/

Taith Clawdd Wat

Mae’r Llwybr Treftadaeth 61 milltir hwn yn dilyn Clawdd arall a adeiladwyd yn yr 8fed Ganrif i wahanu Cymru a Lloegr. Mae’r daith hon gerllaw, neu’n pasio drwy, nifer o nodweddion hanesyddol ac archeolegol.  I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://wats-dyke-way.weebly.com/