Ffotograff: Chris Durham
I weld y “Canllaw i Yswiriant 2018/2019” y mae’r wybodaeth isod yn cyfeirio ato – cliciwch YMA
Pecyn cymorth y tîm sy’n gofalu am y Llwybrau – cliciwch YMA
Mae yswiriant atebolrwydd a damweiniau personol y Cerddwyr yn gallu diogelu ein gwirfoddolwyr sy’n gofalu am y llwybrau os oes angen hynny (weithiau mae rhai Cynghorau’n eich diogelu chi). Nid yw’n yswirio eich cerbydau neu eich offer na neb dros 90 oed (o 2020) ar gyfer yr elfen yswiriant damweiniau personol.
Er mwyn cael eich diogelu mae angen i’r arweinydd tîm (neu rywun arall) anfon y rhestr ddiweddaraf o wirfoddolwyr sy’n gwneud gwaith cynnal a chadw ar y llwybrau i
Gydag unrhyw waith y mae’r tîm yn ei wneud, mae’n rhaid i’r tîm wneud y gwaith gydag ymwybyddiaeth a chytundeb yr awdurdod lleol perthnasol neu asiantaeth debyg.
Mae’n bosibl diogelu gwirfoddolwyr sy’n cynnal a chadw’r llwybrau, ond sydd ddim yn aelodau, tra bydden nhw’n gwirfoddoli gyda’r Cerddwyr os yw eu manylion cysylltu wedi eu hanfon i
Mae’r gweithgareddau hynny sydd wedi eu diogelu i’w gweld yn adran 4.2 y Canllaw i Yswiriant 2018/2019. Os bydd Awdurdodau Lleol yn darparu’r diogelwch a’r hyfforddiant/gefnogaeth briodol, gallai’r Grwpiau ddewis gwneud mwy. Yn y sefyllfaoedd hyn, mae’r awdurdod lleol yn penderfynu o dan ba amodau mae tîm y Cerddwyr yn cael gweithredu.
Mae modd defnyddio’r offer trydanol bach sydd wedi eu rhestru yn adran 4.3 y Canllaw i Yswiriant 2018/2019. Gall y gwirfoddolwyr sy’n dal cymhwyster cyfredol perthnasol ddefnyddio llifiau cadwyn, ac mae’n rhaid gwisgo’r dillad diogelu priodol. Nid oes unrhyw offer trydanol arall wedi eu diogelu. Os bydd yr Awdurdodau Lleol yn darparu’r diogelwch a’r hyfforddiant/gefnogaeth briodol, gallai Grwpiau ddewis defnyddio offer arall. Yn y sefyllfaoedd hyn, mae’r awdurdod lleol yn penderfynu o dan ba amodau mae tîm y Cerddwyr yn cael gweithredu.
Mae diogelwch yswiriant atebolrwydd y Cerddwyr yn gofyn bod tîm llwybrau gwirfoddol y Cerddwyr yn dangos eu bod wedi cymryd gofal i sicrhau eu bod yn gweithio’n ddiogel – gwelwch adran 4.4 y Canllaw i Yswiriant 2018 / 2019. Mae ffurflenni Llofnodi Grwpiau Gweithio cyflawn, neu ffurflen gyfatebol a ddefnyddir gan yr awdurdod lleol a’r rhestrau gwirio Iechyd a Diogelwch yn un o ofyniadau ein diogelwch yswiriant – gwelwch adran 4.4 y Canllaw i Yswiriant 2018 / 2019.
Diogelwch Damweiniau Personol-Er mwyn cael eu diogelu, mae’n rhaid i staff y Cerddwyr fod â rhestr o bawb sydd ar y tîm gwirfoddolwyr cynnal a chadw llwybrau – gwelwch adran 4.4 fel uchod.
Mae’r yswiriant yn diogelu wardeiniaid gwirfoddol y llwybrau, sy’n patrolio darn penodol o lwybr (ar eu pennau eu hunain yn aml iawn) a gallan nhw wneud gwaith clirio ysgafn neu osod disgiau nodi’r ffordd, ond bydd angen i arweinwyr tîm anfon eu manylion cysylltu i
Anafiadau/ Digwyddiadau
Os bydd rhywun yn cael anaf yn ystod y gwaith ymarferol, mae’n rhaid llenwi ffurflen adrodd am ddigwyddiad a’i dychwelyd i’r Cerddwyr drwy
Dylid cofnodi digwyddiadau eraill – gwelwch adran 2 y Canllaw i Yswiriant 2018/ 2019
Offer
Gall Grwpiau brynu offer ar gyfer gwaith ymarferol ar lwybrau cerdded (gofynnwch i’ch trysorydd grŵp – gallai eitemau bach ddod o gronfeydd grŵp, efallai y bydd angen gwneud cais cyllideb ar gyfer rhai mwy) neu gall Awdurdodau Lleol eu prynu. Mae grantiau amrywiol ar gael.
Gall y timau cynnal a chadw llwybrau wneud cais i ni am grant gan y Gronfa Offer i Dimau i dalu am brynu offer (wedi eu diogelu gan yswiriant y Cerddwyr), offer iechyd a diogelwch ac i dalu am hyfforddiant. Mae’r manylion yn y Pecyn cymorth i dimau cynnal a chadw llwybrau (mae’r ddolen ar y brig).
