
PFfotograff: Mike Finn
Mae’r holl Gynghorau Sir yng Ngogledd Cymru’n cydnabod ac yn gwrando ar y Cerddwyr. Ond, y ffordd orau o roi gwybod am broblemau a’u datrys yw drwy gysylltu â’r Cynghorau’n uniongyrchol. Gallwch wneud hynny drwy gyfrwng eu gwefannau. Gallwch ganfod sut i gwyno drwy chwilio ar-lein am enw’r sir a “hawliau tramwy cyhoeddus”.
Neu, gallwch wneud hyn drwy’r Cynllun Pathwatch.
I weld beth yw hynt eich cwyn, naill ai cysylltwch â’r Cyngor yn uniongyrchol neu ymholwch drwy Ysgrifenyddion Llwybrau Troed Sir Lleol y Cerddwyr.
Os nad ydych yn siŵr pa un yw’r Ysgrifennydd perthnasol, neu os ydych eisiau rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifennydd Llwybr Troed yr Ardal, Ron Williams ar yr e-bost
